Nofel: Pili Pala

Cliciwch yma i archebu'r llyfr o www.gwales.com:

PILI PALA

Dyma nofel am gariad, gwyliau a gwallgofrwydd, am farfalle, ffrindiau a ffawd.

Mae Anest Gwyn wedi cael llond bol ar haf diflas Caerdydd. Mae'r glaw ar strydoedd Canton yr un mor fydlyd frown â'r dwr golchi brwshys yn ei dosbarth celf. Mae hi'n ysu am gael cyfle i ddianc i rywle braf. Trwy ryfedd wyrth, daw'r cyfle i fynd ar wyliau i'r Eidal - a hynny am ddim. Pwy fyddai'n gwrthod? Yng nghwmni Mrs Blanche, ei ffrind enigmatig o'r dosbarth peintio, caiff Anest brofiadau a fydd yn newid pethau am byth.

Ond ynghanol gwres llethol yr Eidal, datblyga perthynas y ferch ifanc a'r hen wraig yn glymau cnotiog wrth iddynt brofi antur rhyfedd. O'u cwmpas mae stori Mariella, Marco a thrigolion eraill y pentre Toscanaidd delfrydol yn ymddatod yn edefyn hir gan godi cwestiynau hwyliog a heriol am fywyd. Yn gomedi dywyll hon cawn gip ar ragrith, cyffro ac eironi bywyd yn llygad yr haul.

 

Adolygiad o'r nofel gan Kate Crockett:

Ar gychwyn nofel gyntaf Catrin Dafydd, Pili Pala, fe ges i'r argraff fy mod i ar fin darllen llyfr fyddai'n ddigon tebyg i waith nifer o awduron eraill. Mae'r nofel yn agor drwy sôn am Anest, merch yn ei hugeiniau, sy'n byw yng Nghaerdydd, yn gweithio yn y cyfryngau ac yn breuddwydio am ddod o hyd i wr. Bridget Jones Gymraeg, meddyliais. Ond erbyn diwedd y nofel, roeddwn i'n gwybod nad ysgrifennu chick lit Cymraeg yw bwriad Catrin Dafydd, ond rhywbeth llawer mwy uchelgeisiol. Nid Helen Fielding yw'r prif ddylanwad, ond Mihangel Morgan, dybiwn i. Ac fel sy'n digwydd yn Dirgel Ddyn gan y nofelydd hwnnw, mae'r cymeriadau'n cyfarfod mewn dosbarth nos.

Mae Anest yn derbyn cynnig gan un o'i chyd-ddisgyblion yn ei dosbarth celf i fynd ar wyliau i Toscana. Mae Mrs Blanche yn wraig weddw fohemaidd, soffistigedig, sy'n berchen ar dy haf yn yr Eidal. Mae hi hefyd wedi ffoli ar jazz ac yn awyddus i rannu'i brwdfrydedd am gerddoriaeth gydag Anest.

Â'r ddwy ar eu ffordd i Toscana, cawn hefyd gyfarfod â nifer o Eidalwyr: Sarjant Piccolomini, y plisman pentref busneslyd, a'r cyn-gariadon Marco a Marielle, a'u teuluoedd. Unwaith i Anest a Mrs Blanche gyrraedd y ty haf roeddwn yn disgwyl y byddai byd y Cymry a byd yr Eidalwyr yn cyd-daro. Mae'n debyg mai rhagfarn oedd yn gwneud i mi gredu mai unig swyddogaeth yr Eidalwyr fyddai chwarae rhan yn stori Anest a Mrs Blanche. Unwaith eto, roeddwn yn anghywir. Er eu bod nhw a'r Cymry'n cyfarfod, mae'r Eidalwyr yno fel cymeriadau yn eu hawl eu hunain, gyda'u straeon eu hunain i'w hadrodd.

Felly llwyddodd y nofel hon i'm taflu oddi ar fy echel sawl gwaith, a hynny cyn cyrraedd y troadau annisgwyl tu hwnt tua diwedd y stori. Unwaith i mi sylweddoli nad oeddwn yn darllen nofel realaidd, ond gwaith uchelgeisiol lle nad yw'r gwirionedd wastad mor hawdd i'w ganfod, cefais flas o'r newydd ar y gwaith, ac ar yr ail ddarlleniad cefais lawer mwy o bleser o'r nofel nag ar y darlleniad cyntaf. Gair o gyngor: mae angen darllen y nofel hon gyda meddwl agored!

Mewn ambell fan yn y nofel, mae'r mynegiant ychydig yn chwithig, ond mae Catrin Dafydd yn llais newydd gwreiddiol yn y Gymraeg, ac mae hi'n bendant i'w chanmol am anelu mor uchel gyda'i nofel gyntaf. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddarllen rhagor o nofelau ganddi, ac rwy'n sicr y bydd hi'n datblygu'n awdur o bwys.

Kate Crockett

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

{top}

 

Neges Bersonol gan Barry Chips:

“CatDaf, Dwi wedi mwynhau dy lyfr. Newydd ei orffen, a'r argraffiada' cynta ydi - Waw, mae hon yn gallu dweud sdori', ma'r iaith yn goeth, efo lot o ryw wiredda bach am fywyd yma ag acw.

Roedd y darnau deialog yn fyw iawn efo lot o droeon annisgwyl, ond chesh i dd
im cysdal blas ar y darna mwy athronyddol am gynffon amser fel sgorpion a ballu. Ond debyg mai fy sy rhy dwp i ddalld. Ond oedd diwadd tudalen cynta pennod 5 yn wych - y darn am fwydyn yn dod i'r top ac yn drewi, fatha ryw hen hanas yn dod nol i sboilio bob dim.

O ni'm yn disgwl y doniuolwch chwaith - Picolomini druan yn crafu'i
geilliaa byta snot (petha bach yn plesio pena bach) ond oedd mam Maria yn cosbi ei hun am beidio galaru digon dros ei gwr yn ddoniol iawn (gen i nain fel'na - cotsan ddiflas) a'r darn mewn bracets (ond doedd hi ddim yn fam go-iawn iddi) yn dod a gwen i ngwynab tin i bob tro. Shot”

Barry Chips

I yrru eich neges bersonol i Catrin drwy e-bost, cliciwch yma.

{top}