Ysgolion

Mae Catrin Dafydd ar gael i ddod i unrhyw ysgolion yng Nghymru. Mae Catrin yn storiwraig ac yn cynnal gweithdai gyda plant o bob oed. Ysgolion Cynradd, Uwchradd, Clybiau ar ol ysgol. Mae Catrin hefyd yn diwtor ysgrifennu creadigol gyda myfyrwyr ac oedolion.

Bu'n gweithio fel storiwraig ac yn cynnal gweithdai barddoniaeth ac ysgrifennu gyda Chyngor Sir Benfro, Cyngor Powys, Ysgol Wdig, Ysgol Treletert, Cwrs Trochi Bwrdd yr iaith Gymraeg yn Abergwaun, Ysgol Uwchradd Aberteifi, Ysgol y Bannau yn Aberhonddu, Prifysgol Morgannwg ym Mhontypridd, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Aberystwyth, Cywaith Cymru, yr Academi, Cwrs RaW y BBC a mwy ...

Mwy o wybodaeth: catrindafydd@gmail.com